Fast Facts about our Ferry Service

Teithio’n Gyflymach

Ar gyfartaledd, bydd teithio ar fferi FlyingCat Severn Link rhwng Ilfracombe ac Abertawe bedair gwaith yn gyflymach na theithio mewn car1 a thros chwech a hanner gwaith yn gyflymach na’r trên2.

Llai o Dagfeydd ar y Traffyrdd

Mae gan y gwasanaeth Severn Link rhwng Ilfracombe ac Abertawe y potensial i leihau’r defnydd o’r ffyrdd, gan fydd 350,000 yn llai o deithiau car arfaethedig y flwyddyn ar draffyrdd yr M5/M4 a’r ffyrdd cysylltiol3, gyda hyd yn oed mwy o botensial wrth i ragor o lwybrau gael eu cyflwyno.

Gwasanaeth Rheolaidd

Er mor agos yw’r ddau arfordir ac er bod angen teithio rhwng y ddwy ardal ar filoedd o bobl yng Nghymru a De-Orllewin Lloegr, nid oes gwasanaeth fferi modern, rheolaidd wedi gweithredu ar Fôr Hafren erioed.

Yn hanesyddol, Fferi Aust (neu Beachley) oedd yr unig wasanaeth fferi rheolaidd a gysylltai Cymru a De-Orllewin Lloegr, ond roedd hwn yn croesi Afon Hafren yn llawer pellach i’r dwyrain, ac roedd y ddau bentref ar ben y daith yn Lloegr mewn gwirionedd. Credir bod Fferi Aust wedi bod yn gweithredu ers y 15fed ganrif, ond croesodd am y tro olaf ym 1966 – y diwrnod cyn i Bont Hafren agor i’r cyhoedd.

Cyflymder Uchel

Mae fferïau FlyingCat Severn Link yn teithio ar gyflymder o hyd at 34 not, sef taith gyflym ond gysurus. Golyga hyn tua 39 milltir yr awr, gan hen guro mamolyn dyfrol cyflymaf y byd, y Llamhidydd Dall, sy’n llusgo ar ei hôl hi ar 35 milltir yr awr. Hyd yn oed pe bai dyn cyflymaf y byd, Usain Bolt, yn gallu rhedeg ar y dŵr (rydym yn gwylio’r gofod hwnnw!) ni fyddai ei gyflymder uchaf yn goresgyn rhyw 27 milltir yr awr4.

Camp ar y Dŵr

Mae’r daith rhwng Abertawe ac Ilfracombe yn rhyw 25 morfilltir, sef tua 28.77 milltir statud, ac yn ddiweddar nofiodd rhywun ar draws y culfor am y tro cyntaf erioed - y triathledwr Cymreig, Gethin Jones oedd hwnnw, ar 13 Medi 2009, gan gymryd bron 22 awr.


Troednodiadau

     
  1. Ffynhonnell: Cynllunydd Llwybrau’r AA, www.theaa.com.
  2.  
  3. Yn seiliedig ar deithio ar y ffyrdd i’r orsaf drenau agosaf at Ilfracombe (Barnstaple) ac ymlaen drwy Gaerwysg St Davids a Pharcffordd Bryste. Ffynhonnell: Cynllunydd Llwybrau’r AA a www.thetrainline.com
  4.  
  5. Yn seiliedig ar bedair taith y dydd, gyda seddau i 360 teithiwr ar bob fferi a chan dybio bod gan gar capasiti teithwyr o 1.5 person y cerbyd.
  6.  
  7. Yn seiliedig ar ei record byd 100 metr o 9.58 eiliad, wedi’i rannu’n ddarnau 10m. Ffynhonnell: www.sportscientists.com.

 


Rhestr Bostio

Nodwch eich e-bost i danysgrifio i restr bostio Severn Link.

Y Cynigion Diweddaraf

Bwriwch ati! Osgowch y rhuthr a manteisiwch ar ein cynigion ‘cyntaf i'r felin’ arbennig.

Cliciwch yma i weld ein holl gynigion cyfredol.

Y Newyddion Diweddaraf

Sir Graham Watson address the issue of Coastal Transport development

Posted on 12/07/11 | Read More

Cardiff Bay trials are a success!

The action-packed Welsh capital could become an additional Severn Link destination, after access trials were completed yesterday.

Posted on 26/05/10 | Read More