Mae cymaint i'w wneud ac i'w weld fel bydd gennych ormod o ddewis! Mae Abertawe'n
cynnig cyfleoedd cerdded, seiclo a syrffio, siopa a bwyta eithriadol. Archwiliwch
y cestyll canoloesol a'r gerddi egsotig, ymwelwch â'r amgueddfeydd a'r orielau
ac ewch i'r theatr ac i ddigwyddiadau chwaraeon.
Defnyddiwch y dolennau ar y chwith i gynllunio'ch ymweliad.
Eich cyrchfan cyntaf yn Ne Cymru yw dinas glan y môr fywiog Abertawe. Abertawe
yw'r ail ddinas yng Nghymru o ran poblogaeth ar ôl Caerdydd, ac mae'n fynedfa
i benrhyn syfrdanol Gŵyr, Bae Abertawe, a Chwm Nedd, gan wneud yr ardal yn
gyrchfan delfrydol i dwristiaid neu deithwyr busnes.
Mae yma amrywiaeth eang o lety, a phan fydd chwant bwyd arnoch, ceir dewis
da o ddanteithion blasus - yn amrywio o fwydydd môr ffres a stêc, i seigiau
i lysieuwr, neu rai arbenigol.
Bydd cyfeirlyfrau cyflawn ar gael cyn hir. Yn y cyfamser,
ewch i Dewch i Fae Abertawe neu Visit
South Wales am wybodaeth ddefnyddiol ynghylch eich cyrchfan.