1) Cyflwyniad
Mae’r amodau a thelerau hyn yn rheoli eich defnydd o’n gwefan; trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn yr amodau a thelerau hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r amodau a thelerau hyn, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan
(2) Caniatâd i ddefnyddio’r wefan
Oni bai y nodir fel arall, y ni neu ein trwyddedwyr yw perchenogion yr hawliau eiddo deallusol yn y wefan a’r deunydd ar y wefan. Yn amodol ar y caniatâd isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn.
Cewch edrych ar, llwytho i lawr at ddibenion storio dros dro yn unig, ac argraffu tudalennau o’r wefan er eich defnydd personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn yr amodau a thelerau hyn.
Ni chewch:
(a) ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (yn cynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall);
(b) gwerthu, rhentu neu isdrwyddedu fel arall unrhyw ddeunydd o’r wefan;
(c) dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
(ch) atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ddatblygu fel arall unrhyw ddeunydd ar ein gwefan at ddiben masnachol;
(d) golygu neu addasu fel arall unrhyw ddeunydd ar y wefan; neu
(dd) ailddosbarthu deunydd o’r wefan hon, ac eithrio cynnwys y nodir yn benodol ac yn ffurfiol ei fod ar gael i’w ailddosbarthu (megis ein cylchlythyr).
(3) Defnydd derbyniol
Ni chewch ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi, difrod i’r wefan neu amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, yn groes i’r gyfraith, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas neu weithgaredd sy’n groes i’r gyfraith, yn anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol .
Ni chewch ddefnyddio ein gwefan i gopïo, storio, gwesteia, trawsyrru, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) unrhyw ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, ceffyl Caerdroea, mwydyn, logiwr trawiadau bysell, meddalwedd rootkit neu unrhyw feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall.
Ni chewch gynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomeiddiedig (yn cynnwys crafu heb gyfyngiad, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar, neu mewn perthynas â‘n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig ffurfiol.
Ni chewch ddefnyddio ein gwefan i drawsyrru neu anfon cyfathrebiadau masnachol na ofynnwyd amdanynt.
Ni chewch ddefnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion sy’n berthnasol i farchnata heb ein caniatâd ysgrifenedig ffurfiol.
(4) Mynediad cyfyngedig
Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu ar y mynediad i ardaloedd [eraill] o’n gwefan, neu yn wir i’n gwefan gyfan, yn ôl ein dewis.
Os rhoddwn ID defnyddiwr a chyfrinair i chi er mwyn caniatáu i chi gyrchu ardaloedd cyfyngedig o’n gwefan neu gynnwys neu wasanaethau eraill, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw’ch ID defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gyfrinachol.
Efallai byddwn yn analluogi eich ID defnyddiwr a’ch cyfrinair yn ôl ein dewis heb rybudd neu esboniad.
(5) Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Yn yr amodau a thelerau hyn, mae “eich cynnwys defnyddiwr” yn golygu deunydd (yn cynnwys testun heb gyfyngiad, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clyweledol) a gyflwynir gennych i’n gwefan, pa beth bynnag yw ei bwrpas.
Rydych yn rhoi i ni’r rhyddid byd-eang, diwrthdro, unigryw, yn rhydd o freindaliadau, i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys defnyddiwr mewn unrhyw gyfryngau presennol neu ddyfodol. Rydych hefyd yn rhoi’r hawl i ni isdrwyddedu’r hawliau hyn, a’r hawl i ddwyn achos am dresmasu ar yr hawliau hyn.
Ni chaiff eich cynnwys defnyddiwr fod yn groes i’r gyfraith neu’n anghyfreithlon, ni chaiff dresmasu ar hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd person, ac ni chaiff fod yn alluog i arwain i achos cyfreithiol boed yn eich erbyn chi neu yn ein herbyn ni neu yn erbyn trydydd person (ym mhob achos dan unrhyw ddeddf berthnasol).
Ni chewch gyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr i’r wefan sydd yn destun neu sydd erioed wedi bod yn destun unrhyw brawf achos cyfredol neu a fygythiwyd, neu gŵyn debyg.
Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir i’n gwefan, neu a gaiff ei storio ar ein gweinyddion, neu ei westeia neu ei gyhoeddi ar ein gwefan.
[Er gwaethaf ein hawliau dan yr amodau a thelerau hyn mewn perthynas â chynnwys defnyddwyr, nid ydym yn ymrwymo i fonitro’r gwaith o gyflwyno’r cyfryw gynnwys i, neu gyhoeddi’r cyfryw gynnwys ar, ein gwefan.]
(6) Gwarantiadau cyfyngedig
Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir (ac eithrio’r cynnwys defnyddiwr), nid ydym yn gwarantu ei bod yn gyflawn neu’n fanwl gywir; nid ydym yn ymrwymo ychwaith i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael neu fod y deunydd ar y wefan yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Hyd eithaf y gallu a ganiateir gan y ddeddfwriaeth berthnasol, rydym yn gwahardd pob cynrychiolaeth, gwarantiad ac amod sy’n ymwneud â‘r wefan hon a’r defnydd o’r wefan hon (yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw warantiadau ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd i’r pwrpas a/neu’r defnydd o ofal a sgil rhesymol, sydd ymhlyg yn y gyfraith).
(7) Cyfyngiadau ar atebolrwydd
Ni fydd unrhyw beth yn yr amodau a thelerau hyn (neu yn unrhyw le arall ar ein gwefan) yn gwahardd neu’n rhoi terfyn ar ein hatebolrwydd am dwyll, am farwolaeth neu anaf personol a achosir drwy ein hesgeulustod ni, neu ar unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei wahardd neu ei gyfyngu dan y gyfraith berthnasol.
Yn amodol ar hyn, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â defnyddio’n gwefan neu dan neu mewn cysylltiad â‘r amodau a thelerau hyn, boed mewn contract, camwedd, (yn cynnwys esgeulustod) neu fel arall, yn cael ei gyfyngu fel a ganlyn:
(a) i’r graddau bod y wefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar y wefan yn cael eu darparu am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw natur;
(b) ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol, anuniongyrchol neu arbennig;
(c) ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled o ran elw, incwm, refeniw, cynilion disgwyliedig, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data, neu wybodaeth.
(ch) ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n ymgodi oddi wrth unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol;
(8) Indemniad
Drwy hwn rydych yn ein hindemnio ac yn ymrwymo i barhau i’n hindemnio rhag unrhyw golledion, difrod, costau, rhwymedigaethau a threuliau (yn cynnwys costau cyfreithiol heb gyfyngiad ac unrhyw symiau a delir gennym i drydydd person fel taliad terfynol mewn hawliad neu anghydfod yn unol â chyngor ein cynghorwyr cyfreithiol) a dynnwyd arnom neu a ddioddefwyd gennym o ganlyniad i unrhyw doriad gennych chi o unrhyw ddarpariaeth yn yr amodau a thelerau hyn, neu a gododd o unrhyw hawliad eich bod wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn yr amodau a thelerau hyn.
(9) Torri’r amodau a thelerau hyn
Heb niweidio ein hawliau eraill dan yr amodau a thelerau hyn, os byddwch yn torri’r amodau a thelerau hyn mewn unrhyw ffordd, efallai byddwn yn gweithredu mewn ffordd a ystyrir yn briodol gennym er mwyn delio â‘r toriad, yn cynnwys eich gwahardd dros dro rhag cyrchu’r wefan, eich gwahardd rhag cyrchu’r wefan, atal cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cyrchu’r wefan, cysylltu â‘ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd a gofyn iddynt eich rhwystro rhag cyrchu’r wefan a/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.
(10) Amrywiadau
Efallai y byddwn yn diwygio’r amodau a thelerau hyn o bryd i’w gilydd. Daw’r amodau a thelerau diwygiedig sy’n ymwneud â defnyddio ein gwefan i rym ar ddyddiad cyhoeddi’r ymwadiad diwygiedig ar ein gwefan. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â‘r fersiwn cyfredol.
Enw llawn ein cwmni yw Severn Link Holdings Ltd.
Rydym yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cofrestru <>06237880.
Ein cyfeiriad cofrestredig yw Lower Street Farm, Stogumber, Taunton, Gwlad yr Haf TA4 3TR
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost i communications@severnlink.com
(11) Aseinio
Efallai byddwn yn trosglwyddo, isgontractio, neu ddelio fel arall â'n hawliau a/neu'n rhwymedigaethau dan yr amodau a thelerau hyn heb roi gwybod i chi neu gael eich caniatâd.
Ni allwch chi drosglwyddo, isgontractio, neu ddelio fel arall â'ch hawliau a/neu'ch rhwymedigaethau dan yr amodau a thelerau hyn.
(12) Toradwyedd
Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod darpariaeth yn yr amodau a thelerau hyn yn anghyfreithlon a/neu'n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau i fod mewn grym. Pe bai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn gyfreithlon neu'n orfodadwy pe bai rhan ohoni’n cael ei dileu, gellir ystyried bod y rhan honno wedi’i dileu, ac y bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau i fod mewn grym.
(13) Gwahardd hawliau trydydd person
Mae'r amodau a thelerau hyn er eich budd chi a'n budd ni, ac ni fwriedir iddynt fod o fudd i unrhyw drydydd person neu iddynt fod yn orfodadwy gan unrhyw drydydd person. Nid yw arfer ein hawliau ni a'ch hawliau chi mewn perthynas â'r amodau a thelerau hyn yn amodol ar ganiatâd unrhyw drydydd person.
(14) Cytundeb cyflawn
Mae'r amodau a thelerau hyn, ynghyd â'n polisi preifatrwydd, yn ffurfio'r cytundeb cyflawn rhyngoch chi a ninnau mewn perthynas â'ch defnydd o'n gwefan, ac maeny yn disodli pob cytundeb blaenorol arall mewn perthynas â'ch defnydd o'r wefan hon.
(15) Y gyfraith ac awdurdodaeth
Rheolir a dehonglir yr amodau a thelerau hyn yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw anghydfodau mewn perthynas â'r amodau a thelerau hyn yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
(16) Cofrestriadau ac awdurdodiadau
Mae Severn Link Holdings Ltd wedi ei gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau. Ein rhif cofrestru yw 06237880.
Ein rhif TAW yw 976 6544 64.
(17) Ein manylion
Enw llawn ein cwmni yw Severn Link Holdings Ltd.
Rydym yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cofrestru <>06237880.
Ein cyfeiriad cofrestredig yw Lower Street Farm, Stogumber, Taunton, Gwlad yr Haf TA4 3TR
Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at communications@severnlink.com
Darperir yr amodau a thelerau hyn trwy garedigrwydd
Website Contracts a Website Law
http://www.website-law.co.uk/ourdocumentlicence.html
© Hawlfraint Severn Link
Gwefan can SWM Consulting.
Y Cynigion Diweddaraf
Bwriwch ati! Osgowch y rhuthr a manteisiwch ar ein cynigion ‘cyntaf i'r felin’ arbennig.
Cliciwch yma i weld ein holl gynigion cyfredol.
Y Newyddion Diweddaraf
Sir Graham Watson address the issue of Coastal Transport development
Cardiff Bay trials are a success!
The action-packed Welsh capital could become an additional Severn Link destination, after access trials were completed yesterday.














