Rydym yn ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr i’n gwefan; mae’r polisi hwn yn nodi sut fyddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol.
(1) Pa wybodaeth a gesglir gennym?
Efallai byddwn yn casglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o ddata personol:
(a) gwybodaeth ynghylch eich cyfrifiadur a’ch ymweliadau i, a’ch defnydd o’r wefan hon (yn cynnwys [eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr, ffynhonnell gyfeirio, hyd yr ymweliadau a’r nifer o ymweliadau â gwahanol dudalennau]);
(b) gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw drafodion a wnaed rhyngoch chi a ninnau ar, neu mewn perthynas â‘r wefan hon, yn cynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw rai o’n nwyddau neu wasanaethau a brynir gennych (yn cynnwys [MANYLION]);
(c) gwybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion cofrestru gyda ni (yn cynnwys [MANYLION]);
(ch) gwybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion tanysgrifio i’n gwasanaethau gwefan, hysbysiadau e-bost a/neu gylchlythyrau (yn cynnwys [MANYLION]);
(d) unrhyw wybodaeth ychwanegol y dewiswch ei hanfon atom.
(2) Cwcis
Mae cwci’n cynnwys gwybodaeth a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe, ac a gaiff ei storio gan y porwr. Yna anfonir y wybodaeth yn ôl at y gweinydd bob tro bydd y porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd. Mae hyn yn galluogi’r gweinydd gwe i glustnodi a thracio’r porwr gwe.
Efallai byddwn yn defnyddio cwcis “sesiwn” a chwcis “parhaol” ar y wefan. Byddwn yn defnyddio’r cwcis sesiwn i: gadw golwg arnoch tra byddwch yn llywio’r wefan. Byddwn yn defnyddio’r cwcis parhaol i: ganiatáu i’n gwefan eich adnabod pan fyddwch yn ymweld.
Caiff cwcis sesiwn eu dileu o’ch cyfrifiadur pan fyddwch yn cau eich porwr. Bydd cwcis parhaol yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur nes byddant yn cael eu dileu, neu nes byddant yn cyrraedd dyddiad terfyn penodol.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi’r defnydd o’r wefan hon. Mae Google Analytics yn cynhyrchu gwybodaeth ystadegol ac arall ynghylch y defnydd o wefan drwy gwcis a gânt eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Defnyddir y wybodaeth a gynhyrchir mewn perthynas â‘n gwefan i greu adroddiadau ynghylch y defnydd o’r wefan. Bydd Google yn storio’r wybodaeth hon.
Mae polisi preifatrwydd Google ar gael ar: http://www.google.com/privacypolicy.html.
Efallai bydd ein hysbysebwyr/ darparwyr gwasanaethau taliadau yn anfon cwcis atoch hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi wrthod pob cwci, tra bod rhai porwyr yn caniatáu i chi wrthod cwcis trydydd partïon yn unig. Er enghraifft, yn Internet Explorer gallwch wrthod pob cwci drwy glicio ar “Tools”, “Internet Options”, “Privacy”, a dewis “Block all cookies” gan ddefnyddio’r detholydd llithr. Ond bydd blocio pob cwci yn cael effaith negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau.
(3) Defnyddio eich data personol
Defnyddir data personol a gyflwynir ar y wefan hon at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn rhannau perthnasol o’r wefan.
Efallai byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i:
(a) weinyddu’r wefan;
(b) gwella eich profiad pori drwy bersonoleiddio’r wefan;
(c) caniatáu i chi ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael ar y wefan;
(ch) anfon nwyddau atoch a brynwyd drwy’r wefan, a chyflenwi gwasanaethau i chi a brynwyd drwy’r wefan;
(d) anfon cyfriflenni ac anfonebau atoch, a chasglu taliadau oddi wrthych;
(dd) anfon cyfathrebiadau masnachol cyffredinol atoch (heb fod yn ymwneud â marchnata);
(e) anfon hysbysiadau e-bost atoch y gofynnoch amdanynt yn benodol;
(f) anfon ein cylchlythyr a chyfathrebiadau marchnata eraill atoch yn ymwneud â‘n busnes [neu fusnesau trydydd partïon a ddewiswyd yn ofalus] y tybiwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, drwy’r post neu, ble bo’ch wedi cytuno’n benodol i hyn, drwy e-bost neu dechnoleg debyg (gallwch roi gwybod i ni ar unrhyw adeg os nad ydych yn dymuno derbyn rhagor o gyfathrebiadau marchnata);
(ff) rhoi gwybodaeth ystadegol i drydydd partïon ynghylch ein defnyddwyr – ond ni ddefnyddir y wybodaeth hon i enwi unrhyw ddefnyddiwr unigol;
(g) delio ag ymholiadau a chwynion a wnaed gennych neu yn eich cylch mewn perthynas â‘r wefan.
Ble byddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol i’w chyhoeddi ar ein gwefan, byddwn yn cyhoeddi a defnyddio’r wybodaeth honno fel arall yn unol â’r awdurdod a roddwch i ni.
Os na chawn eich caniatâd ffurfiol, ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd partïon at ddibenion marchnata uniongyrchol.
Caiff yr holl drafodion ariannol ar ein gwefan eu prosesu drwy ein darparwr gwasanaethau taliadau. Ni ddylech roi eich gwybodaeth bersonol i Paypal nes byddwch wedi darllen polisi preifatrwydd Paypal (ar gael ar www.paypal.com). Byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda Paypal i’r graddau sydd yn angenrheidiol at ddibenion prosesu’r taliadau a wnewch drwy ein gwefan yn unig.
(4) Datgeliadau
Efallai byddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch i [unrhyw rai o’n cyflogedigion, swyddogion, asiantiaid, cyflenwyr neu isgontractwyr] i’r graddau sy’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd.
Yn ychwanegol, efallai byddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch:
(a) i’r graddau sy’n ofynnol i ni yn gyfreithiol;
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw achosion cyfreithiol neu achosion cyfreithiol arfaethedig;
(c) er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (yn cynnwys rhoi gwybodaeth i eraill at ddibenion atal twyll a lleihau risgiau credyd); ac
(ch) i brynwr (neu ddarpar brynwr) unrhyw fusnes neu ased yr ydym yn ei werthu (neu’n ystyried ei werthu).
Ac eithrio fel y pennir yn y polisi preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i drydydd partïon.
(5) Trosglwyddiadau data rhyngwladol
Efallai bydd y wybodaeth a gesglir gennym yn cael ei storio a’i phrosesu yn, a’i throsglwyddo rhwng, unrhyw rai o’r gwledydd ble rydym yn gweithredu er mwyn caniatáu i ni ddefnyddio’r wybodaeth yn unol â‘r polisi preifatrwydd hwn.
Efallai bydd gwybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei throsglwyddo i wledydd eraill [(yn cynnwys [yr Unol Daleithiau],[Japan], [GWLEDYDD ERAILL] nad oes ganddynt ddeddfau diogelu data sy’n gyfwerth â‘r rhai mewn grym yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)
Yn ychwanegol, caiff [gwybodaeth bersonol a gyflwynir gennych i’w chyhoeddi ar y wefan] ei chyhoeddi ar y rhyngrwyd a gallai fod ar gael, drwy’r rhyngrwyd, ledled y byd.
Rydych yn cytuno’n ffurfiol i’r cyfryw drosglwyddiadau gwybodaeth bersonol.]
(6) Diogelwch eich data personol
Byddwn yn cymryd camau technegol a gweithredol rhesymol i ofalu na fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei cholli, camddefnyddio neu newid.
Byddwn yn storio’r holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar ein gweinyddion diogel (a amddiffynnir gan gyfrinair a mur gwarchod). Bydd yr holl drafodion electronig a wneir gennych neu a dderbyniwch gennym yn cael eu hamgryptio [gan ddefnyddio technoleg SSL].
Wrth gwrs, mae trosglwyddo data dros y rhyngrwyd yn anniogel yn ei hanfod, ac ni allwn warantu diogelwch data a anfonir dros y rhyngrwyd.
[Rydych chwithau’n gyfrifol am gadw’ch cyfrinair a’ch manylion defnyddiwr yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn gofyn i chi am eich cyfrinair.]
(7) Diwygiadau i’r Polisi
Efallai byddwn yn diweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd drwy bostio fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylech wirio’r dudalen o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau.
[Efallai byddwn yn rhoi gwybod i chi hefyd am newidiadau i’n polisi preifatrwydd drwy e-bost.]
(8) Eich Hawliau
Gallwch ddweud wrthym am roi unrhyw wybodaeth bersonol i chi yr ydym yn ei chadw amdanoch. Efallai bydd yn rhaid talu ffi am ddarparu’r gyfryw wybodaeth (ar hyn o bryd mae hon yn £10.00).
Gallwch ddweud wrthym drwy e-bost, ar unrhyw adeg, am beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. (Yn ymarferol, byddwch fel rheol naill ai’n cytuno’n ffurfiol ymlaen llaw i ni ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi ymeithrio o ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata.)
(9) Gwefannau trydydd partïon
Mae’r wefan yn cynnwys dolennau i wefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd neu arferion gwefannau trydydd partïon.
(10) Diweddaru gwybodaeth
Rhowch wybod i ni os oes angen cywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth bersonol y cedwir gennym amdanoch.
(11) Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu ein triniaeth o’ch data personol, anfonwch e-bost at communications@severnlink.com.
(12) Rheolydd Data
Y rheolydd data sy’n gyfrifol am ein gwefan yw SWM Consulting Ltd.
Ein rhif cofrestru diogelu data yw Z1844677.
Darperir y polisi preifatrwydd hwn trwy garedigrwydd
Employment Law Contracts a Website Law
http://www.website-law.co.uk/ourdocumentlicence.html
© Hawlfraint Severn Link
Gwefan can SWM Consulting.
Y Cynigion Diweddaraf
Bwriwch ati! Osgowch y rhuthr a manteisiwch ar ein cynigion ‘cyntaf i'r felin’ arbennig.
Cliciwch yma i weld ein holl gynigion cyfredol.
Y Newyddion Diweddaraf
Sir Graham Watson address the issue of Coastal Transport development
Cardiff Bay trials are a success!
The action-packed Welsh capital could become an additional Severn Link destination, after access trials were completed yesterday.














