Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn llawn gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol a fydd yn sicrhau bod eich taith fferi gyda ni mor hwylus â phosibl.
Gwiriwch am ddiweddariadau rheolaidd i’n Cwestiynau Cyffredin.
Rwyf yn defnyddio cadair olwyn, a oes angen i mi wneud unrhyw drefniadau arbennig?
Os oes angen cymorth arnoch, rhowch wybod i aelod staff pan gyrhaeddwch y porthladd, a bydd yn dda ganddynt eich helpu gyda’ch anghenion symudedd. Mae cadeiriau olwyn ar gael gennym ym mhob un o’n terfynfeydd ond mae’r nifer yn gyfyngedig a fe’u dosberthir ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, felly os oes angen cadair olwyn arnoch cysylltwch â ni cyn ymadael fel y gallwn gadw un i chi.
A oes lwfans bagiau?
Gall teithwyr ddod â hyd at dair eitem o fagiau personol am ddim, gan gynnwys hyd at ddwy eitem fawr (fel cesys neu sachau teithio) ac un bag llaw. Gellid derbyn bagiau ychwanegol a rhai eitemau mwy swmpus cyhyd â bod lle ar gael, a byddai tâl ychwanegol am y rhain. Cysylltwch â‘r swyddfa fwcio am ragor o fanylion.
A oes pecynnau Hwylio a Gyrru ar gael?
Bydd pecynnau Hwylio a Gyrru ar gael cyn hir a gellir eu bwcio ar wefan Severn Link – gwiriwch yr adran Manylion Pecynnau am ragor o fanylion.
A alla i ddod â chi neu gath?
Cewch, mae cŵn a chathod yn cael teithio am ddim ar ein fferïau. Nid oes angen bwcio.
Ni all Severn Link ddarparu cytiau cŵn neu gewyll. Rhaid cadw pob anifail mewn cludydd addas neu eu cadw dan reolaeth yn y dull priodol. Ni chaiff anifeiliaid fynd i ardal luniaeth y teithwyr (ac eithrio cŵn tywys).
Mae perchennog yr anifail yn gyfrifol am sicrhau bod yr anifail yn ymddwyn yn briodol ac nad yw’n achosi helbul neu drafferth i’r teithwyr eraill.
A alla i fwcio tocynnau ar unrhyw adeg o’r dydd?
Bydd gwasanaeth tocynnu ar-lein Severn Link ar gael 24 awr bob dydd i fwcio eich tocyn. Nid yw amserau’r gwasanaeth bwcio dros y ffôn wedi’u cadarnhau eto.
Pa mor hen mae plant yn cael teithio ar eu pen eu hun?
Gall plant 16 oed a throsodd deithio’n annibynnol ar fferïau Severn Link.
Pwy gaiff eu dosbarthu fel plant at ddibenion tocynnu?
Mae plant 12 oed ac iau yn gymwys i deithio ar Severn Link ar docyn plentyn.
Pa mor aml mae’r fferi’n rhedeg?
Bydd y fferi’n rhedeg ddwywaith y dydd rhwng Ilfracombe ac Abertawe, bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig.
Pam nad yw’r fferi’n rhedeg ar yr un amserau bob dydd?
Gan fod Môr Hafren yn gulfor llanwol, mae’r amserau cyrraedd ac ymadael yn adlewyrchu’r amserau pan fod lefel y dŵr yn caniatáu i’r fferi hwylio i mewn i’r porthladd.
A gaf i ddod â char, beic modur neu feic?
Mae fflyd Severn Link yn cynnwys catamaranau cyflymder uchel i deithwyr yn unig. Bwriedir ychwanegu fferïau ceir i’n fflyd yn y dyfodol a bydd y rhain yn medru cario ceir a beiciau modur ynghyd â cherbydau masnachol mawr.
Cadarnhawyd bellach y bydd fferïau Severn Link yn medru cario beiciau. Bydd angen bwcio cludiant beiciau ymlaen llaw ar adeg prynu tocynnau.
© Hawlfraint Severn Link
Gwefan can SWM Consulting.
Y Cynigion Diweddaraf
Bwriwch ati! Osgowch y rhuthr a manteisiwch ar ein cynigion ‘cyntaf i'r felin’ arbennig.
Cliciwch yma i weld ein holl gynigion cyfredol.
Y Newyddion Diweddaraf
Sir Graham Watson address the issue of Coastal Transport development
Cardiff Bay trials are a success!
The action-packed Welsh capital could become an additional Severn Link destination, after access trials were completed yesterday.











