Mae traethau syrffio gwych Woolacombe, Croyde a Saunton gerllaw, neu, os yw'n well gennych seiclo neu gerdded, yna dylech roi cynnig ar Lwybr Tarka, sef llwybr arfordirol Gogledd Dyfnaint, a Pharc Cenedlaethol anghysbell a hardd Exmoor.
Eich cyrchfan cyntaf yng Ngogledd Dyfnaint yw tref glan y môr syfrdanol Ilfracombe. Teitl Ilfracombe yw ‘trysor’ arfordir Gogledd Dyfnaint, ac mae'n gyrchfan perffaith sy'n cynnig llu o bosibiliadau i deuluoedd, twristiaid neu deithwyr busnes.
Defnyddiwch y dolennau ar y chwith i gynllunio'ch ymweliad.
Mae yma amrywiaeth eang o lety, a phan fydd chwant bwyd arnoch, ceir dewis da o ddanteithion blasus - yn amrywio o fwydydd môr ffres a stêc, i seigiau i lysieuwr, neu rai arbenigol.
Defnyddiwch ein dolennau cyfeirlyfr ar-lein i fwcio'ch llety a chynllunio'ch ymweliad ag Ilfracombe: ‘Y Fynedfa i Ogledd Dyfnaint.’
Bydd cyfeirlyfrau cyflawn ar gael cyn hir. Yn y cyfamser, ewch i Visit Ilfracombe a North Devon am wybodaeth ddefnyddiol ynghylch eich cyrchfan.