
Dewch gyda ni...
Byrddiwch y llong a gadewch i ni eich tywys at yr arfordir cyfagos mewn llai o amser na threulir yn gwylio newyddion 6 o'r gloch!
Darganfyddwch swyn arfordir Dyfnaint, Exmoor a thu hwnt, neu ewch i grwydro ar hyd traethau syfrdanol Bae Abertawe. Ymwelwch â safleoedd hanesyddol, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, neu neilltuwch amser ar gyfer siopa neu fwyta yn y tafarnau a'r bwytai niferus yn y ddwy ardal.
Peidiwch ag oedi –
bwciwch eich tocynnau yn awr!
Yn awr, mae Cymru a’r De-Orllewin yn nes at ei gilydd nag erioed!
Gyda lansiad fferi FlyingCat Severn Link, dim ond taith fer a distraen 50 munud fydd yn gwahanu arfordiroedd hardd a hanesyddol Gogledd Dyfnaint a De Cymru.
Bwciwch eich Tocyn Cyn Lansio arbennig heddiw!
Mae’r gwasanaeth Severn Link yn fenter newydd ddewr a fydd yn ailgysylltu cymunedau, treftadaeth, a phobl Cymru, Dyfnaint, Gwlad yr Haf a Chernyw, gan wneud y mannau hyn yn hygyrch i dwristiaid, teuluoedd a busnesau ar ddwy ochr Môr Hafren.